Cyfansoddi

Yfed te efo Austerlitz

W G Sebald

Austerlitz

Hamish Hamilton, 416tt, £16.99, 2001

Yfed te efo Austerlitz
Mererid Puw Davies

Amser darllen: 15 munud

29·04·2017

Mae gen i un gwpan ac un soser o tsieina gwyn, mor fain nes eu bod nhw fel pe baent yn goleuo oddi mewn, fel sêr. Arnynt, mewn glas disglair, mae enw Capel Bethesda, Corwen. Mae gan fy chwaer gwpan a soser tebyg. Mae’n rhaid mai dyma weddillion set llestri te fawr y capel erstalwm, oherwydd wrth iddo gau dro yn ôl, rhoddodd rhywun caredig y rhain i’n mam, er nad oedd hi wedi byw yng Nghorwen ers degawdau, am ei bod yn wyres ac yn ferch i’r gweinidog a’r ysgrifennydd gynt, ac felly’n ddisgynnydd i un o deuluoedd selog y capel. Daeth fy chwaer a minnau ar draws y llestri wrth glirio’r cartref ar ôl ein rhieni; hyd y gwn i, dyma’r unig rai o’u bath sydd ar ôl yn y byd.

Mae effaith yr ysgrifen las ar gefndir gwyn fel awyr anwadal haf. Fel yr hafau erstalwm yng Nghorwen, pan oedd popeth yn ei le a phopeth yn annwyl, a threfn a sglein ar fywyd, fel llond dresel o lestri llachar. Neu dyna a glywn i, o leiaf, wrth wrando ar hanesion fy mam am ei phlentyndod yng Nghorwen yn nhridegau a phedwardegau'r ganrif ddiwethaf. Roedd aelwyd a siop ddillad y teulu bryd hynny’n llawn athronyddu a gwleidydda a llenydda a barddoni a steil a hwyl (a rhywfaint o deilwra, hyd yn oed, yn awr ac yn y man); ac roedd yna bryfed tân liw nos. Yn fy meddwl i, ni allai’r un fan fod ymhellach o brif ffrydiau hanes tywyll Ewrop ar y pryd.

Ac eto: mae her i’r syniad hwnnw i’w chael yn rhywle go annisgwyl, sef yng ngwaith cyflawn olaf yr awdur Almaenaidd diweddar W G Sebald, yn ei nofel led-ddogfennol am yr Holocost, Austerlitz. Honno, a’i chysylltiadau â Chymru, yn ogystal â’r llestri te, ydi pwnc yr ysgrif hon. Cyhoeddwyd Austerlitz yn 2001 ac enillodd wobrau lu, ychydig fisoedd yn unig cyn marwolaeth annhymig Sebald mewn damwain foduro. Roedd eisoes wedi cyhoeddi tri gwaith rhyddiaith sylweddol arall, Schwindel. Gefühle. (Pendro. Twyll.) yn 1990, Die Ausgewanderten (Yr Allfudwyr) ddwy flynedd yn ddiweddarach a Die Ringe des Saturn (Cylchoedd Sadwrn) yn 1995. Ond, ym marn llawer, Austerlitz yw ei gampwaith.  

Yn rhannol am fod llyfrau Sebald wedi eu cyfieithu yn fuan ac yn awdurdodol i’r Saesneg ar y cyd â’r awdur ei hun, maent wedi sicrhau enw iddo fel un o awduron amlycaf yr ugeinfed ganrif yn rhyngwladol. Mae ei ddarllenwyr yn edmygu ei ddadansoddiadau digyfaddawd a phrofoclyd o ystyr yr oes fodern ac o hanes; ei feddylfryd gosmopolitaidd; ei nod o roi llais i leiafrifoedd a’r rheiny sy’n cael eu hanwybyddu gan y llyfrau hanes; a’i gydymdeimlad at gyd-ddyn. Ond mae darllenwyr hefyd yn gwerthfawrogi agweddau mwy esthetig ei waith: harddwch ei arddull; ei bynciau dirifedi, annisgwyl; ei gyfeiriadaeth gyfoethog at hanes a llenyddiaeth o bob math a phob man; ei ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n rhyfeddol mewn bywyd bob dydd ac mewn hanes; a’i hiwmor hefyd.

Ond yn fwy na dim, llenor mawr y cyd-ddigwydd yw Sebald, oherwydd bod bron popeth o bwys sy’n digwydd yn ei weithiau yn ganlyniad i gyd-ddigwyddiad, a hwnnw’n esgor, yn ei dro, ar gyd-ddigwyddiadau arwyddocaol eraill. Mae’n dangos, mi fentrwn, bod cyflwr ôl-grefyddol, ôl-ragluniaethol yr oes fodern yn ein gwneud yn rhyfedd o sensitif i unrhyw beth sydd fel petai’n amcanu y tu draw iddo’i hun at batrwm mwy. A dyma pam, mae’n debyg, bod darllenwyr Sebald yn eu cael eu hunain yn agored eithriadol i gyd-ddigwyddiadau. Yn hwyr neu’n hwyrach, mae pawb sy’n darllen ei waith yn dechrau sylwi ar gyd-ddigwyddiadau tebyg i’r rhai a welir yn y gwaith ei hun; rhwng rhyw fanylyn yn eu profiad neu yn eu bywydau nhw – dyddiad, enw stryd, sgwrs â dieithryn ar ddamwain – a rhywbeth o bwys yn y llyfrau. Yn wir, mae rhestru’r cyd-ddigwyddiadau yma wedi dod yn rhan anhepgor bron o unrhyw ysgrif ar Sebald, wrth i’r awdur ryfeddu at y modd y cafodd ei gynnwys neu ei chynnwys, trwy’r fath gyd-ddigwyddiad, yn y byd llenyddol amheuthun hwn. Dydw i ddim yn bwriadu bod yn eithriad i’r duedd hon - ond mwy am hynny, a’r llestri te, toc, ar ôl cyflwyno Austerlitz yn fwy manwl.

Yn annisgwyl efallai, ac ystyried bod Sebald yn awdur a brofodd lwyddiant beirniadol a phoblogaidd ysgubol, gweledigaeth dywyll sydd ganddo. Mae’n awgrymu bod y cyfnod modern ar ei hyd, y cyfeirir ato, yn eironig, fel Oes Oleuedig, yn gyfnod trahaus, lle nad yw trefn a rheswm yn ddim ond offerynnau gorthrwm mwyfwy effeithlon mewn byd sylfaenol greulon. Yr Holocost, wrth gwrs, yw enghraifft bennaf y weledigaeth hon. Fodd bynnag, ym marn Sebald, mae’r trais yma yn dod i fodolaeth gyda’r Oes Oleuedig ei hun, megis yn yr erchyllterau a ddilynodd y Chwyldro Ffrengig. Roedd y chwyldro hwnnw, wrth gwrs, i fod yn wawr cymdeithas newydd wedi ei seilio ar reswm a sofraniaeth hawliau dynol. Ond yn 1805, enillodd Napoléon frwydr Austerlitz – ei fuddugoliaeth filwrol fwyaf – ac fe laddwyd 45,000. Dyma alanas ar raddfa fodern sydd, i Sebald, yn proffwydo dinistr y dyfodol, a dinistr sydd yn cynnwys trychineb prif gymeriad y nofel Austerlitz, dyn â’r enw anghyffredin Jacques Austerlitz. Mae’r enw hwn, felly, yn gyd-ddigwyddiad rhyfeddol – neu, yn hytrach, nid yw’n gyd-ddigwyddiad o gwbl.

Mae’r nofel yn cynnwys cyfres o sgyrsiau, dros gyfnod o ryw ddeng mlynedd ar hugain, rhwng Jacques Austerlitz ac adroddwr dienw sy’n cyfarfod ag ef ar hap yng Ngwlad Belg, ac eto wedyn dros y blynyddoedd. Weithiau maent yn trefnu cwrdd, weithiau mae eu cyfarfodydd yn annisgwyl. Yn y sgyrsiau hyn, bob yn dipyn, mae Austerlitz yn dadlennu hanes ei fywyd. Cafodd ei fagu’n Dafydd Elias ym mhedwardegau’r ugeinfed ganrif yn y Bala, yn unig blentyn i weinidog Methodistaidd Calfinaidd, Emyr Elias, a’i wraig Gwendolyn. Mae’r plentyndod yma yn anialwch emosiynol ac yn llawn anghysur corfforol: mae Gwendolyn yn ei esgeuluso am ei bod hi’n cadw trefn ar y tŷ byth a hefyd (er weithiau yn ei dagrau), ac mae Emyr yn ei esgeuluso am ei fod â’i ben yn ei bregethau. Meddiennir Dafydd bach gan deimladau rhyfedd, bod rhywbeth hollol amlwg wedi’i guddio oddi wrtho; ei fod yn gaeth mewn breuddwyd, efallai, neu fod ganddo efaill anweledig, neu fod yn y Beibl negeseuon cyfrin ar ei gyfer ef yn unig. Mae straeon Exodus yn enwedig yn gwneud argraff arno, a chaiff ei ddychryn gan hanes merch Lefi, mam Moses, sydd yn achub ei baban rhag cael ei lofruddio gan yr Eifftiaid trwy ei guddio mewn cawell yn yr hesg ar fin yr afon, a thywysoges yr Eifftiaid yn dod o hyd iddo wedyn ac yn ei fagu. A chaiff ei hudo gan hanes Moses yn arwain yr Hebreaid trwy’r anialwch – cymaint felly, yn wir, nes bod byd Exodus yn ymddangos yn fwy real i Dafydd na byd y Bala.

Mae Dafydd yn mynd i ysgol fonedd yn ymyl Croesoswallt, lle mae’n darganfod nad Dafydd Elias yw ei enw mewn gwirionedd, ond Jacques Austerlitz. Mae’n darganfod hefyd ei fod yn blentyn maeth i Emyr a Gwendolyn, na wnaethant erioed ei fabwysiadu’n ffurfiol. Daw i ddefnyddio’r enw hwnnw, er na all neb ei egluro wrtho. Wedi colli Emyr a Gwendolyn, aiff i brifysgol Rhydychen a dilyn gyrfa academaidd ym Mharis ac yn Llundain. Mae Austerlitz yn parhau i ddychwelyd i Gymru tan 1957, i ymweld â Gerald Fitzpatrick, ei ffrind pennaf o’r ysgol, sy’n byw efo’i deulu hynod yn Andromeda Lodge, plasty sydd wedi mynd â’i ben iddo, rhywle rhwng y Bermo a Dolgellau, ac sydd yn wrthwyneb llwyr i gartref teulu Elias. Mae’r lle’n llawn rhyfeddodau: adar egsotig byw a marw, cyfarpar astudio natur, casgliadau o löynnod byw, neuadd ddawnsio lle chwaraeir badminton ac orendy lle mae colomennod yn byw. I Austerlitz, dyma’r fan fwyaf annwyl a heddychlon yn y byd, ond caiff y plasty ei werthu ac, yn 1966, mae Gerald yn marw mewn damwain awyren drychinebus.

Wedi hyn, ni all Austerlitz ffurfio na pherthynas na chyfeillgarwch ag unrhyw un, ac mae’n byw ar ei ben ei hun yn Llundain. Bob yn dipyn, mae hen orsaf Liverpool Street, toc cyn ei dymchwel yn 1992, yn dechrau ei gyfareddu fwyfwy, er na ŵyr o pam. Un tro, wedi digwydd cael hyd i ddrws i ystafell sydd ar fin cael ei chwalu, y Ladies’ Waiting Room, caiff weledigaeth o fachgen bach yn cael ei hebrwng oddi yno gan Emyr a Gwendolyn Elias. Y flwyddyn wedyn, eto trwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mewn siop, mae’n clywed cyfweliad radio efo dwy wraig a ddihangodd o’r Ewrop Natsïaidd yn 1939 yn blant bach ar y Kindertransport, un o’r trenau a gludodd filoedd o blant Iddewig i ddiogelwch Prydain ar drothwy'r Ail Ryfel Byd. Rhywsut, mae Austerlitz yn amgyffred mai dyma ei hanes yntau, dim ond bod Emyr a Gwendolyn wedi ceisio’i ddiddymu. Mae dysgu am y cefndir hwn yn egluro pob math o bethau yn ei blentyndod, megis ei gyffro wrth glywed hanes merch Lefi yn cuddio’i phlentyn. Daw Austerlitz i ddeall bod y stori wedi ei atgoffa, yn isymwybodol, am ei fam yntau yn ei achub trwy ei guddio a’i yrru, ar y Kindertransport, at fam faeth ddiarth. Dyma wraidd, hefyd, ei iechyd meddyliol bregus. Mae Austerlitz wedyn yn mynd ati i chwilio am y gorffennol a guddiwyd rhagddo, a hanes y chwilio yma yw sylwedd prif ran y nofel. Yr hanes hwn, felly, sy’n digwydd yn Llundain ac yn Ewrop gyfandirol yn bennaf, yw canolbwynt sylw llawer o ddarllenwyr. Ar yr olwg gyntaf, nid yw plentyndod Austerlitz yng Nghymru yn ddim ond rhagair, fel petai, i’r stori fawr. O ganlyniad, nid yw’n tynnu sylw llawer o feirniaid llenyddol. Ond i mi, mae lleoli’r digwydd hwn mewn rhywle mor gyfarwydd yn un arall o gyd-ddigwyddiadau amheuthun Sebald, ac yn gyfle i weld gogledd Cymru a’i phethau trwy lygaid eraill.

Mae’r darlun a geir o’r iaith Gymraeg, er enghraifft, yn hynod. Yn y Bala, am fod Gwendolyn Elias yn ddi-Gymraeg, Saesneg ydi iaith yr aelwyd. Yng ngenau Emyr Elias, mae’r iaith Gymraeg yn offeryn i godi ofn – ac mae’n amhosib i Dafydd-Jacques ei dysgu. Y tu allan i’r cartref, felly, y mae’r plentyn yn dysgu’r iaith, gan Evan y crydd. Adwaenir Evan fel Geisterseher, rhywun sy’n gallu gweld ysbrydion, ac mae’n adrodd straeon am y meirw sy’n mynnu dychwelyd i’r byd, ac am y byd arall sy’n bodoli, allan o’r golwg gan mwyaf, ochr yn ochr â’r byd diriaethol. Mae’r weledigaeth hon yn gwneud perffaith synnwyr i Dafydd-Jacques, sydd wedi teimlo erioed bod yna ryw fyd arall yn bod y tu hwnt i’r hyn a wêl. Yn nes ymlaen, wrth gwrs, mae’r darllenydd, ac yntau, yn deall mai dehongliad y plentyn o’i frith gof am ei gartref gynt ym Mhrâg sydd yma.

Yn ôl Sigmund Freud, gall rhithiau o’r fath ymgorffori’r hyn y mae’r meddwl ymwybodol wedi ei anghofio ond sydd yn mynnu dod yn ôl o hyd i’r presennol, fel y meirw i Evan. Ansoddair Freud am yr effaith hon yw unheimlich, term sy’n anodd ei gyfieithu, am ei fod yn awgrymu rhywbeth sydd ar yr un pryd yn anghynnes a diarth ac eto’n gyfarwydd. Wrth gwrs, mae isymwybod Dafydd-Jacques yn llawn o ddeunydd y mae o wedi gorfod ei wrthod am ei fod yn boenus – colli ei rieni, ei gartref a’i famieithoedd, Tsiec a Ffrangeg. Ac os yw’r fath golledion yn mynnu dod yn ôl atom, fel yr awgryma Freud, fel rhithweledigaethau lled-gyfarwydd, does ryfedd bod y byd yn ymddangos yn unheimlich i’r plentyn bach yma. Un enghraifft yw ei ymateb grymus pan wêl Lyn Efyrnwy yn blentyn; yn wir, mae’n ei alw’n unheimlich. Fel oedolyn, mae Austerlitz yn sylweddoli bod Llyn Efyrnwy a’i ddŵr wedi ei atgoffa yn isymwybodol o daith trên y Kindertransport ar hyd afon Rhein a’i chestyll trawiadol. Ar y naill law, felly, mae’r iaith Gymraeg, yn nefnydd Emyr Elias ohoni, yn gyfrwng gormesol i Dafydd-Jacques. Ond, ar y llaw arall, ac er ei bod yn gyfrwng i’r ‘unheimlich’, mae’n cynnig rhyw gyswllt brau â’r gorffennol, y cof, yr isymwybod a’i effeithiau cymhleth, ac yn caniatáu iddo ddehongli’r byd mewn ffyrdd amgen.

Mae’r nofel hefyd yn gwneud defnydd uniongyrchol, un waith, o’r iaith Gymraeg – peth prin ar y naw mewn llenyddiaeth Almaeneg. Ac mae hyn, o bob dim yn y nofel, wedi hoelio fy sylw o’r cychwyn. Wrth i Austerlitz yr oedolyn ddisgrifio’i gyffro wrth ddarllen straeon Exodus, mae’r geiriau ‘yn yr hesg ar fin yr afon’ yn ymddangos yn Gymraeg, heb eu trosi na’u hegluro, ynghanol y testun Almaeneg. Mae ffuglen Sebald yn frith o eiriau neu frawddegau heb eu trosi, mewn sawl iaith. Gan amlaf, ieithoedd mwy adnabyddus Ewrop gaiff eu defnyddio: Eidaleg, Ffrangeg, Tsiec ac ati, fel bod llawer o ddarllenwyr Sebald, mae’n debyg, yn cael y profiad, wrth ddehongli'r babel ieithoedd, o gael eu cynnwys ym myd deallusol y nofel. Gwahanol iawn yw effaith y defnydd o iaith lai adnabyddus, Cymraeg, iaith nad oes iddi eiriau cytras amlwg a fydd yn gyfarwydd i lawer. Mae’r testun, felly, yn cyflwyno i’r rhan fwyaf o’i ddarllenwyr elfen o brofiad sydd yn radical ddiarth, am mai anghyffredin iawn ymysg darllenwyr cyntaf Austerlitz yn enwedig, sef darllenwyr Almaeneg eu hiaith, yw gwybodaeth o’r Gymraeg.

Ond i mi, dyma brofiad o ryw adnabod radical, am fod hwnnw mor annisgwyl. Yn y llinellau hyn, mae’r byd ieithyddol yn gwyrdroi, a mamiaith yn ymddangos yn sydyn yn unheimlich. Anodd hefyd yw osgoi’r teimlad bod y nofel yn fy annerch i’n bersonol, yn uniongyrchol. Ac, yn fwy na hynny, mae’r nofel yma yn fy nghyfarch i am fod Capel Bethesda, Corwen, ei hun yn ymddangos ynddi. Dyma un capel y mae Dafydd-Jacques yn ymweld â fo efo Emyr, o’r Bala gyfagos (aethon nhw yno ar y trên, tybed, a oedd yn mynd â phlant Corwen, yn eu tro, i’r ysgol yn y Bala?). Meddyliaf bob tro wrth ddarllen y tudalennau hyn y byddai Dafydd-Jacques yn siŵr o fod wedi adnabod fy nain, fy nhaid a fy mam yn eneth, a fuasai, bryd hynny, fymryn yn hŷn nag yntau. Mae’r bachgen bach yn eu tywys nhw, felly, i mewn i dudalennau’r nofel, a minnau’n eu gweld yno yng ngwawr ryfedd yr unheimlich.

Ond nid yw hon, wrth gwrs, yn stori wir; fu'r un Dafydd Elias bach erioed yn cael te brynhawn Sul efo Emyr Elias a fy nhaid, fy nain a fy mam. Dim ond ffantasi; dim ond cyd-ddigwyddiad. Ond beth ydi hwnnw? Rhywbeth sy’n gwingo’n anesmwyth yn yr isymwybod? Tystiolaeth bod grymoedd hanes yn tynnu gwe amdanom sydd ganwaith yn fwy tyn a mwy cymhleth nag a gredem? Arwydd, yn siŵr, nad oedd dim un o anheddau bychain Cymru erstalwm y tu hwnt i hanes Ewrop, ac nad oes dim un ohonom ychwaith yn byw mewn gwirionedd ar ein pennau ein hunain heddiw. Yn y byd sydd ohoni, y mae’n weddus iawn inni gofio nad yw Andromeda Lodge yn bod. A dyma brawf hefyd, felly, mai dim ond yn rhannol y gwrandawn ar hanesion fy mam am fywyd tref fechan ar ganol yr ugeinfed ganrif. Er gwaetha’r awyr gymylog las a’r pryfed tân, mae’n rhaid bod galar a gofid eithafol yn ymwelwyr cyson â’r fan yn ystod y blynyddoedd hynny.

Daw’r nofel, felly, yn gyfrwng i rywun fyfyrio’n feirniadol ar ei syniadau am hanes, ac arno ef neu arni hi ei hun. Mi ddywedai rhai, mae’n siŵr, mai dyma farc llenyddiaeth gwirioneddol fawr. Gwell gen i fod yn ochelgar wrth sôn am y fath beth â llenyddiaeth ‘fawr’ (sut beth, felly, fyddai llenyddiaeth ‘fechan’, tybed?), heb sôn am honni gallu enwi ei phriodweddau. Ond yn sicr, yn Austerlitz, mae yna ryw alcemi rhyfedd ar waith. Oherwydd mae Dafydd-Jacques yn dal yng Nghorwen. Mae o’n dal i yfed te yno efo fy mam, o lestri gwyn, gloyw Capel Bethesda, sy’n goleuo oddi mewn, fel sêr.

Mae Mererid Puw Davies yn darlithio mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Cyhoeddwyd ei chyfrol am ysgrifennu a phrotest yng Ngorllewin yr Almaen yn 2016.

Yn y llinellau hyn, mae’r byd ieithyddol yn gwyrdroi, a mamiaith yn ymddangos yn sydyn yn unheimlich

Pynciau:

#Rhifyn 3
#Ysgrifau
#Mererid Puw Davies
#Yr Almaen
#Freud
#W G Sebald