Cymru Fydd

Cymru Fydd

Wiliam Owen Roberts


Cyhoeddir 23 Tachwedd 2022 | 
Clawr papur deuliw, â llabedi a siaced lwch | 
432 tudalen | ISBN 978-1-7390975-0-9


*Dim ond oddi mewn i’r DG rydym yn postio Llyfrau O’r Pedwar Gwynt ar hyn o bryd. I archebu o dramor, ewch i gwales.com

£12.99

Crynodeb

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb?

I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry.

Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a’u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau.

Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a’u gwlad. Ond mae’r hyn sy’n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090?

Adolygiadau

‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg!’
— Simon Brooks 

‘Mewn ymateb i’r cais am froliant i Cymru Fydd, ni fyddaf yn ymuno â chewri ein diwylliant i ganu ei chlodydd. Oblegid, a galwch fi’n hen ffasiwn yn unol â’ch dymuniad, ni chredaf mai baeddu unigolyn na chenedl yw swyddogaeth llên’
— Derfel Clarke

‘Mae Cymru Fydd yn troi’r byd ben i waered ac yn dangos mor ansefydlog a bregus yw gwerthoedd cenedl ... ond profwn hefyd mor ddwfn yw ein teimladau at bobl, at ddynoliaeth ac at gyfiawnder.’
— Elin Haf Gruffydd Jones

‘Mae'n dweud stori dda yn grefftus, yn codi cwestiynau mawr am wleidyddiaeth Cymru, yn gynnil ei chyfeiriadaeth, yn creu byd amgen dychmyglon ac yn peri chwerthin mawr o dro i dro.’
— Emyr Lewis

‘Hyrddiad dychrynllyd a sobreiddiol i’r dyfodol gan feistr ar y nofel – yn plethu straeon a chymeriadau â dychymyg a dawn aruthrol. Ond daw y cwestiynau fel bomiau: Cymru Fydd? Cymru Sydd? Cymru Rydd?’
— Alun Llwyd

‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’
— Angharad Price

Yn ôl i frig y tudalen