Dadansoddi

‘Mae popeth yn newid, ar wahân i’r tango’

Meredydd Evans

Hela’r Hen Ganeuon

Y Lolfa, 2009

Eric Hobsbawm

The Invention of Tradition

Cambridge University Press, 1983

Horatio Ferrer

El Libro del Tango. Arte Popular de Buenos Aires

1970

R T Jenkins

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif

Gwasg Prifysgol Cymru, 1931

Sioned Webb

Amser darllen: 12 munud

14·07·2021

Astor Piazzolla (Wikimedia Commons)
 

‘Mae popeth yn newid, ar wahân i’r tango’ – dyna gyfieithiad bras o ddihareb o’r Ariannin. Eleni, byddai’r cyfansoddwr Archentaidd, Astor Piazzolla, wedi dathlu ei ganfed pen-blwydd. Fo, yn anad neb arall fu’n gyfrifol am chwyldroi cerddoriaeth y tango traddodiadol gan greu genre newydd sbon, y tango nuevo. Nid pawb oedd yn coleddu’r newid ac roedd rhai yn chwyrn eu gwrthwynebiad.

Gyda Sesiwn Fawr Dolgellau yn y calendr cerddorol y mis hwn, a nifer o wyliau gwerin eraill yn dadebru, gwelwn yr un hen ddadleuon â’r rhai a gafwyd yn yr Ariannin yn ailgodi eu pennau eto yng Nghymru: A ddylid coleddu arbrofi gyda cherddoriaeth draddodiadol? Pa mor bell y gellir gwthio ffiniau cerddoriaeth werin? Neu a ddylid cadw cerddoriaeth gynhenid yn bur? Beth yw glân a phur? Ac os am allforio ein traddodiadau a ydi hynny'n gofyn am eu glastwreiddio? Mae artistiaid gwirioneddol greadigol wedi sglefrio dros yr anawsterau hyn drwy’r canrifoedd gan wneud yr hyn a wnant orau, sef perfformio’r alawon yn eu harddull eu hunain a chyd-fyw’n hapus ddigon gydag arddulliau eraill. Oni ddylen ni gerddorion sydd â mymryn o ddiddordeb yn y maes fod yn agored i syniadau’n gilydd? Beth am yr adnod yna sy’n sôn am win newydd a hen gostreli? A beth fedrwn ni ei ddysgu gan hanes y tango yn yr Ariannin?

*

Ganed Astor Piazzolla ar 11 Mawrth 1921 yn Mar del Plata, tref arfordirol yn yr Ariannin. Symudodd y teulu am gyfnod i Efrog Newydd ac yna’n ôl i’r Ariannin. Pan yn blentyn, derbyniodd offeryn y bandoneon (math o acordeon a ddefnyddir mewn cerddoriaeth tango) yn anrheg gan ei dad a dysgodd ei chwarae gan ddod yn aelod o sawl band tango. Serch hynny, erbyn iddo ddychwelyd yn ôl i’w wlad enedigol, roedd Piazzolla â’i fryd ar ddod yn gerddor clasurol. Drwy gyd-ddigwyddiad ffortunus, roedd y cerddor o wlad Pwyl, Arthur Rubenstein (1887- 1982), yn byw yn Buenos Aires ar y pryd ac yn argymell i’r Piazzolla ugain oed dderbyn gwersi gan y cyfansoddwr clasurol Alberto Ginastera (1916-1983). Cafodd Piazzolla gyfle i astudio gweithiau cyfansoddwyr fel Bartók, Stravinsky ac eraill oedd yn arbrofi â cherddoriaeth werin yn nwyrain cyfandir Ewrop, ond tueddai i syrthio rhwng dwy stôl a chael ei dynnu rhwng cerddoriaeth draddodiadol a chlasurol heb eto ddarganfod ei ffordd.
 


Argymhellodd Ginastera ei fod yn cynnig ei Symffoni Buenos Aires mewn Tri Symudiad i gystadleuaeth Gwobr Sevitsky yn 1953 a Piazzolla wedi cynnwys dau fandoneon yn y gerddorfa. Er iddo ennill y wobr, doedd hynny ddim yn tycio gan nifer a gwylltiodd y gynulleidfa. Penderfynodd y cyfansoddwr ifanc y byddai’n canolbwyntio ar gerddoriaeth glasurol o hynny allan. Ond yn eironig, pan gafodd yn wobr ysgoloriaeth i astudio am flwyddyn gyda Nadia Boulanger ym Mharis, lle'r aeth y flwyddyn ganlynol – ffigwr eiconig yng ngherddoriaeth yr 20g oedd Boulanger a ddysgodd nifer fawr o gyfansoddwyr a cherddorion y cyfnod – roedd hi â mwy o ddiddordeb yn y cyfansoddiadau ganddo oedd yn tynnu ar y traddodiad gwerinol. Dyma’r groesffordd a barodd i Piazzolla droi ei law tuag at yr arddull y glynodd ati ac y ceisiodd ei saernïo gweddill ei oes. 

Pam fod Piazzolla wedi pendilio’n ôl a blaen cyn hynny, felly? Gellir damcaniaethu gan dybio ei fod ychydig yn swil o’r cefndir a’r traddodiadau – dylanwad y gwingo diwylliannol, efallai, oedd wedi codi ei ben mewn gwledydd megis Awstralia yn y cyfnod. Dim ond dechrau dod i oed oedd yr arfer o goleddu cerddoriaeth werin fel rhan o gerddoriaeth glasurol yng ngwledydd Ewrop a pharhau fel arddull ar y cyrion oedd hynt cerddoriaeth draddodiadol mewn sawl diwylliant. Digon gwir i ffurf y tango fwynhau diwygiad bychan yn Buenos Aires yn ystod y 19g ond dirmygus oedd agwedd y rhai mwyaf cefnog tuag at y ddawns. Ffurf yn deillio’n rhannol o’r fasnach gaethwasiaeth oedd y tango, ac a gafodd ei phlethu yn ei thro â cherddoriaeth Ewropeaidd. Yn amlach na pheidio, mewn clybiau nos i fewnfudwyr a theuluoedd cyn-gaethweision y'i dawnsiwyd, a hynny gan y ‘Porteños’, yn buteiniaid ac artistiaid llac eu moesau o safbwynt y bourgeoisie.


Dawnsio'r tango (Wikimedia Commons)
 


Mae’n anorfod fod safbwyntiau’n mynd i fod yn rhanedig a phob cenhedlaeth yn rhoi ei stamp ei hun ar gerddoriaeth werin. Yn y gyfrol The Invention of Tradition (1983) dywed y golygydd Eric Hobsbawm yn ei ragarweiniad nad peth anarferol yw cenhedloedd sy'n dyfeisio traddodiad. Dywed fod hynny'n digwydd yn amlach na pheidio pan fo newidiadau cymdeithasol yn peri i rai arferion fynd yn anghofiedig. Dadleuir fod traddodiadau sydd wedi’u dyfeisio hefyd yn dystiolaeth o newidiadau mewn cymdeithas ac felly’n cynnig astudiaeth hanfodol o dŵf a datblygiad cenedl. Awgryma rhai awduron yn y casgliad fod traddodiadau’r Alban a Chymru yn wahanol i draddodiadau Lloegr, sy’n ceisio atgyfodi hanes lled ddiweddar a’i frandio fel hen, hen arfer. Mae pennod yr hanesydd Prys Morgan yn y gyfrol, er enghraifft, yn olrhain traddodiadau ac arferion Cymru yn ôl ganrifoedd cyn y gwledydd eraill, ond yr awgrym, serch hynny, yw fod Cymru hefyd efallai’n euog o’r un duedd. 

Gwgu ar gerddoriaeth werin wnaeth un agwedd ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru, yn ôl Prys Morgan, yn enwedig yn y 18g. Offerynnau’r dafarn oedd y delyn a’r crwth yn ffeiriau’r cyfnod – nid annhebyg i amgylchiadau’r tango yn Buenos Aires. Mae nifer yn gweld bai ar y Diwygiad Methodistaidd yn y 18g am sathru ar y cyfeddachu. Ond nid dyna’r stori gyflawn. Mae John Byng (1743-1813) y dyddiadurwr, ar ôl bod yn ymweld â’r Bala yn 1784 ac wedyn yn 1793, yn nodi y gwelwyd newid mawr yn arferion y bobl mewn cwta ddeng mlynedd – ‘[...] roedd pob arwydd o ddifyrrwch wedi mynd’. Ac meddai Edward Jones (1752-1824), bardd a thelynor i’r Brenin Siôr IV yn ei lyfr The Bardic Museum, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1802: 'Mae’r dirywiad ym myd y clera a’r arferion cenedlaethol i raddau helaeth yn cael ei briodoli i ffanaticiaid di-ddysg a thwyllwyr o bregethwyr [...] [sydd] wedi camarwain pobl oddi wrth eu heglwys gyfreithiol ac yn eu cadw oddi wrth ddifyrrwch diniwed fel chwaraeon yr oeddyn nhw’n arfer ymhyfrydu ynddynt [...] a’r canlyniad yw fod Cymru, oedd yn arfer bod yn un o’r gwledydd hapusaf a’r mwyaf llawen yn y byd, yn awr yn un o’r rhai mwyaf diflas.'

Eglwyswr oedd Edward Jones a ymhyfrydai mewn rhoi ambell belten i Ymneilltuaeth. Ar y llaw arall, nid dyma’r unig chwyldro neu ddiwygiad fu yn y cyfnod hwn. Dywedodd yr hanesydd a’r awdur R T Jenkins yn ei lyfr Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (1931) mai nid canrif y Diwygiad Methodistaidd yn unig oedd y 18g ond canrif o ddiwygiadau addysgiadol, amaethyddol, diwydiannol a diwylliannol. Mae’n debyg i Gymru brofi elfen o ddiwygiad diwylliannol. Tua’r cyfnod yma y cyfansoddwyd y casgliadau niferus o ddawnsiau mewn strwythurau deublyg AB. Maent yn cael eu cyfrif yn ddawnsiau neu’n alawon traddodiadol heddiw. Ai dyfeisio traddodiad yw hynny?

*

Beth am yr 20g yn yr Ariannin? Roedd yno awydd, nid yn unig i gadw’r traddodiadau ac arferion diwylliannol y wlad ond hefyd i’w hatgyfodi a’u diwygio. Yn yr Academia Nacional del Tango, sydd wedi’i lleoli hyd heddiw yn Avenida de Mayo yn Buenos Aires, uwchben y Café Tortoni, yr amcan oedd casglu, didoli ac adolygu etifeddiaeth ddiwylliannol y tango. Sylfaenydd a llywydd cyntaf yr Academia oedd Horacio Ferrer, bardd a hyrwyddwr y tango yn ei holl agweddau. Yn 1970, ysgrifennodd y gyfrol gyntaf o'r casgliad o ysgrifau El Libro del Tango: Arte Popular de Buenos Aires, sy’n parhau’n gyfeirlyfr i unrhyw un sydd am wybod mwy am grefft y tango. Roedd gan Ferrer berthynas glòs gyda Piazzolla; bu’n cydweithio â’r cerddor i ysgrifennu nifer o gerddi mewn dull traddodiadol a’r cerddor yn eu gosod ar gân. Uchafbwynt y cydweithio oedd yr opera tango María de Buenos Aires, y cafwyd ei pherfformiad cyntaf yn y Sala Planeta, Buenos Aires ym Mai 1968 a’r perfformiad hwn yn gatalydd i hollti’r farn am natur y gwaith. Yn archifau’r Sala Planeta, ceir cofnod o'r dadlau a fu yn ei chylch. Roedd Maria, y prif gymeriad, yn butain o’r ddinas a hynny’n ei dro yn arwain at olrhain bywyd y porteños (pobl y porthladd), sef y trigolion lleol a chartref y tango traddodiadol. Roedd y gerddoriaeth yn fentrus ond roedd y plot yn driw i’r hanes. Dywed y cofnodion fod Ferrer, awdur y geiriau, yn darlunio’r gorffennol a Piazzolla, y cyfansoddwr, yn amneidio at y dyfodol. Yn ymdriniaeth Piazzolla o’r offerynnau, megis y drymiau, neu’r gitâr drydan, mae’n dangos y gall ffurf y tango fod yn hyblyg a phellgyrhaeddol. Perfformiwyd y gwaith hwn ar sawl cyfandir maes o law gan ddod â cherddoriaeth tango i glustiau anghyfarwydd.
 


Heddiw yn yr Ariannin mae dwy brif garfan wedi ymsefydlu o blith yr holl amrywiaethau ar ffurf y tango, sef y gwledig a’r trefol. ‘Cân y ddinas’ yw diffiniad pobl y Wladfa o’r tango. Yn Eisteddfod y Wladfa, eisteddfod y cefais i’r fraint o feirniadu ynddi bum mlynedd yn ôl, roedd yna dair cystadleuaeth canu gwerin. Un oedd canu gwerin o Gymru, yr ail oedd cystadleuaeth ‘caneuon gwledig’, neu’r música folklórica, a’r drydedd y canto popular urbano, cerddoriaeth y ddinas, lle perthynai'r tango. Oes yna wahaniaeth bellach yng Nghymru hefyd rhwng y caneuon gwerin mwy ‘gwledig’ a ‘chaneuon y ddinas’, y gwahaniaeth, dyweder, rhwng ‘Cainc yr Aradwr’ a ‘Sosban Fach’? Yn ddiweddar, deuais ar draws disgyblion a dybiai mai cân werin oedd ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan. 
 

 

Rai degau o flynyddoedd wedi llwyfaniad yr opera ddadleuol yn Buenos Aires, bu ymgais yn y Gymru Gymraeg hefyd i lwyfannu perfformiadau gwerin ar raddfa fwy na’r gorffennol. Yr ymgais gyntaf i greu sioe werin ar raddfa fawr a brofais i oedd llwyfaniad y sioe gerdd Nia Ben Aur yn 1974. Bu dadlau ar y pryd a oedd y sioe yn arddangos ein traddodiadau Cymreig ai peidio. Gwelwyd digwyddiadau tebyg yn fwy diweddar, er enghraifft yn yr Eisteddfod Genedlaethol lle cafwyd nosweithiau cyfan i ddathlu’n traddodiadau cerddorol yma yng Nghymru. Bu’r noson yn y Pafiliwn yn Eisteddfod Meifod 2015 yn garreg filltir oherwydd fod cerddoriaeth gwbl draddodiadol wedi’i phlethu â’r mwy mentrus yn gerddorol. Yn Eisteddfod Caerdydd 2018, cafwyd noson gyfan ar brif lwyfan Canolfan y Mileniwm gan y band Pendevig, yn gymysgfa o gerddorion gwerin, jazz a chlasurol yn cyd-lwyfannu â beirdd a llefarwyr i greu plethwaith o sioe. Bu hynny’n destun trafod mawr ynghylch hanfodion canu gwerin a’r traddodiadau. Codwyd yr un cwestiynau gan WOMEX 13 a gynhaliwyd yn yr un lleoliad bum mlynedd ynghynt.

*

‘O draddodiad cadarn y blagura newyddwch,’ meddai Saunders Lewis. Rhaid cael traddodiad cadarn a gafael sicr ar y gwreiddiau os am fentro i gyfeiriad newydd; mae newyddwch, yn anochel, yn blaguro o’r bonyn cadarn. 

Sut y gwyddom ninnau am gerddoriaeth draddodiadol ein gwlad o gwbl? Dylid cydnabod y casglwyr ar hyd y daith (gw. Hela’r Hen Ganeuon Meredydd Evans, 2009). Dylid cydnabod gwaith y Gymdeithas Alawon Gwerin hefyd a gofnododd yr alawon gwerin a’u hachub rhag mynd i ebargofiant. Recordiwyd rhai o’r ‘werin’ yn canu mewn nosweithiau gwerin, mewn Plygeiniau, mewn cartrefi a chyfarfodydd pentrefol. Gellir cydnabod unigolion fel Robert (Bob) Evans, Nansi Richards ac eraill fu’n allweddol wrth atgyfodi offerynnau megis y crwth a’r delyn deires rhag diflannu o'n traddodiad. Sefydlwyd Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, y mudiad a adnabyddir heddiw fel 'Clera' i hyrwyddo’r offerynnau traddodiadol Cymreig, a sefydlwyd y 'Glerorfa', cerddorfa werin, yn sgil hynny. Bu apwyntio Wyn Thomas yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn allweddol drwy roi statws i ethnogerddoreg. Sefydlwyd y band ‘Ar Log’ yn 70au’r ganrif ddiwethaf, oedd yn estyn dwylo at rai fel y telynor a’r cerddor Alan Stivell yn Llydaw ac artistiaid eraill y gwledydd Celtaidd. Daeth gwyliau fel y Sesiwn Fawr a’r Cnapan yn rhan o’r calendr blynyddol. Mae’r genhadaeth a’r allforio gwerin hefyd yn fyw ac yn iach yn y Gymru gyfoes. Gellid meddwl am fandiau fel Calan, VRï, a 9Bach sydd wedi mynd â cherddoriaeth draddodiadol Cymru dros y byd yn y blynyddoedd diwethaf. Ac yn yr un modd unigolion fel Siân James, Gareth Bonello, Gwyneth Glyn ac eraill. Ond mae cnwd hefyd o artistiaid gwerin yr un mor werthfawr yn parhau yn ein cymunedau.

Yn yr Ariannin, mae nifer wedi ymladd i gadw’r traddodiadau cerddorol yn fyw drwy chwythu einioes gyfoes iddynt, nid trwy eu cadw'n fud mewn amgueddfa. Efallai y gall Cymru felly elwa o sylwi ar duedd neu ddwy yn hanes cerddoriaeth tango yr Ariannin. Onid oes modd i bawb gyd-oddef? Yn y 19g, roedd gwraig nodedig iawn o’r enw Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer wedi penderfynu cadw’r traddodiadau Cymreig drwy ganiatâu’r delyn deires, a’r deires yn unig, yn ei phlasdy yn Llanofer. Mewn cyd-destun go wahanol, heb arian na rhwysg, roedd teuluoedd Wood a Roberts hefyd yn cadw’r delyn deires yn fyw ymhlith y sispsiwn. Os am gyd-fyw, mae’n rhaid i’r ddwy ochr hon fedru anadlu. Y bardd, y meddyliwr a’r artist Kahlil Gibran o Lebanon (1883-1931) ddywedodd wrth sôn am briodas: ‘Sefwch gyda’ch gilydd, ond nid yn rhy agos. Mae colofnau’r deml yn sefyll ar wahân. Ac nid yw’r dderwen a’r cypreswydd yn tyfu yng nghysgod ei gilydd.’ Os y llwyddodd cerddoriaeth Piazzolla gyd-fyw gyda’r tango traddodiadol, oni ddylai cerddoriaeth draddodiadol o sawl arlliw fedru byw ochr yn ochr mewn goddefgarwch yn y Gymru gyfoes?

Comisiynwyd yr erthygl hon fel rhan o arlwy Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021.

Y llun o'r Café Tortoni, Buenos Aires: Wikimedia Commons.

Mae Sioned Webb wedi ymddiddori erioed mewn canu gwerin ac mae ei diddordeb yn y maes wedi ehangu ar ôl gweithio gyda’i thelyn deires yn Ne America, Uzbekistan a Chanada yn ystod y chwe mlynedd ddiwethaf. Mae ar breswyliad ar hyn o bryd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. 

Ffurf yn deillio’n rhannol o’r fasnach gaethwasiaeth oedd y tango, ac a gafodd ei phlethu yn ei thro â cherddoriaeth Ewropeaidd

Pynciau:

#Cerddoriaeth
#Yr Ariannin
#De America