Colofnau

Siegfried

Y Cofnod

Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 11 munud

05·12·2022

Y Wallace Collection
 

Pan oeddwn yn blentyn, bûm ar ymweliad ag ysgol gerdd ym Manceinion. Nid wyf yn cofio gweithiau pa gyfansoddwyr a chwaraeais, dim ond i mi ymgolli yn y gerddoriaeth a bod golwg ddwys ar y bobl, ac iddynt wedyn fy nhywys o gwmpas yr adeiladau. Aethom i fyny i’r lloriau uwch, ac o’r fan honno i’r ystafelloedd gwely lle roedd y ffenestri’n uchel yn y waliau. Yno, y lliw pinc a gofiaf yn fwy na dim arall, y trugareddau anhardd a phlentynnaidd a orweddai yma ac acw yn erbyn y parwydydd, y llenni hefyd a hongiai’n ddienaid, a’r olwg sur ar y gwlâu a adawyd heb eu gwneud. Doedd neb wedi rhybuddio’r disgyblion, felly, y byddai ymwelwyr? Roedd y waliau yn drwmlwythog o bosteri eilunod yr arddegau, a’r holl elfennau diserch hyn gyda’i gilydd yn gwneud i’r ystafelloedd deimlo’n swnllyd, er nad oedd y preswylwyr yno. Synnais wrth weld bod fy nhywyswyr am wneud mwy na dilyn protocol ac agor y drws a cherdded i mewn ac allan – roedden nhw am i mi oedi yng nghanol y llanast cras, tynnu cadair atyn nhw i ni gael sgwrsio, ac am i mi sylwi ar bob un dilledyn wedi ei daflu ar lawr. Gallwn weld y dystiolaeth drosof fy hun: fod plant y lle hwn yn blant hollol normal, yn cael hwyl fel plant normal eraill. Er eu bod, wrth gwrs, yn gweithio’n galed iawn yn ymarfer eu hofferynnau. Ond ym mhob ystyr arall, roedden nhw’n blant fel plant ym mhobman: yn chwerthin am yr un pethau â phawb arall, yn mwynhau edrych ar yr un rhaglenni teledu â phawb arall, yn gwirioni ar wylio ffilmiau sâl fel pawb arall, a hyd yn oed yn mopio eu pennau efo cerddoriaeth bop ac yn bwyta sothach. Weli di, does dim angen poeni: er ein bod yn bobl arbennig rydan ni hefyd yn hollol normal. Mae siarad fy nhywyswyr yn fy ngwneud yn anniddig hyd heddiw, mae rhywbeth yn anneniadol yn eu lleisiau, ac fel y teganau yn y llofftydd, i’w clywed yn feddal a fflat yr un pryd. Nid eu bod yn bobl lygredig ychwaith. Geiriau annilys oedden nhw, fel petasai rhywun yn siarad ar ran yr athrawon hyn, a chofiaf geisio eu rhwystro rhag mynd i mewn i fy nghlustiau. Beth oedd yn bod ar y cerddorion yma: oedden nhw wedi magu personoliaeth ddeublyg? Oedden nhw’n gofalu, ar ôl gorffen chwarae, eu bod yn cau drws ar dlysni, rhag i’r gogoniant eu rhwystro rhag bod yn normal? Heblaw am deimlo’n flin efo nhw, wyddwn i ddim beth i’w wneud o hyn. Nid pobl go-iawn oedden nhw: ar ôl cau fy offeryn yn ofalus yn ei gês melfedaidd a’i berarogl ystor, roedden nhw am i mi smalio nad oedd ots am bethau tlws. Tu hwnt i’r foment gerddorol, rhaid oedd byw mor anwar â phosib, o fewn terfynau normalrwydd – rhag i ni dyfu’n rhy waraidd, yn rhy hardd. 

Roeddwn wedi anghofio am yr olygfa hon tan yr ailddarllenais ‘Yr Allfudwyr’ (Die Ausgewanderten, 1992) gan W G Sebald a disgrifiadau’r prif gymeriad, sef adroddwr yr hanes – sydd ar sawl cyfrif yn debyg i Sebald ei hun – yn cyrraedd Manceinion yn fyfyriwr ymchwil yn 1966. Roeddwn wedi troi at y gyfrol o’r newydd er mwyn ceisio amgyffred yn well y dieithrwch y byddaf innau yn ei deimlo’n gynyddol wrth deithio rhwng dau gartref, rhwng dwy wlad, fel petawn i’n dechrau dygymod, erbyn hyn, â bod yn fwy nag un person. Yno, cyfarfu’r adroddwr ag artist alltud o’r enw Max Ferber (Max Aurach yn y testun gwreiddiol, gan adleisio, yn ôl rhai, enw’r artist Frank Auerbach y tynnwyd darlun ganddo allan o’r gyfrol erbyn cyhoeddi’r cyfieithiad Saesneg yn 1996 a’r cyfieithiad Ffrangeg yn 1999). Fel Auerbach, daw Ferber maes o law yn enw rhyngwladol. Ond mae’r golygfeydd yn y gyfrol yn dywyll gan yr Ail Ryfel Byd, gan ddifreiniad, a chan bresenoldeb y rhai a adawyd ar ôl yn yr Almaen. Dinas y mewnfudwyr ydi Manceinion yma, dinas y byw a’r meirw hefyd, yn Seffariaid, Almaenwyr ac Iddewon. Er nad oedd Sebald yr awdur yn ffoadur, aeth yntau i fyw bywyd alltud ym Mhrydain, gan aros yma i bob pwrpas weddill ei fywyd. 

Wrth ailddarllen ‘Max Ferber’, y pedwerydd alltud yn ‘Yr Allfudwyr’, a throi’r tudalennau, teimlais ryddhad wrth gofio na fyddai rhaid i mi fynd yn ôl i ‘Arosa’ fwy nag unwaith yn y stori – hen lety gwreiddiol y prif gymeriad, lle bu’n byw wedi cyrraedd Prydain yn ddwy ar hugain oed. Rhyw fath o pension nodweddiadol Brydeinig oedd hwnnw. Cofiaf y lle yn iawn oddi ar y tro cyntaf i mi ddarllen y gyfrol: lle cyfyng, â gwlâu meddal a chwrlidau candlewick persawrus ac anghynnes, lle nad ydi’r waliau yn ddim mwy na chardbord a lle gwyddom ddigon am ein cyd-letywyr heb eu gweld. 

Dychwelyd i’r ddinas i ymweld â Ferber ar ei wely angau yr oedd Sebald yr adroddwr erbyn y pwynt hwn yn yr hanes, a hynny yn yr un cyfnod ag yr oeddwn innau yn ymweld â’r ysgol gerdd. Nid oedd wedi bod yn ôl ers blynyddoedd a phenderfynodd aros yng ngwesty crand y Midland, lle bu’r artist – ers iddo gael mwy o lwyddiant ar y farchnad gelf, a chyn gorfod symud i’r ysbyty – yn llogi ystafelloedd. Dyma lle byddai Churchill yn aros, a lle y cyfarfu Charles Rolls a Henry Royce gan fynd ati i sefydlu Rolls Royce yn 1904. Ond wedi cerdded i mewn drwy ddrysau’r Midland yng nghysgod yr awdur, sylweddolais mai wedi mynd yn ddiolwg roedd y gwesty hwn hefyd: roedd rhwysg y feistrolaeth ddiwydiannol a osododd y sefydliad ar ei draed wedi torri. Erbyn hyn, dim ond mewn pyliau fyddai’r system wresogi stêm – syfrdanol yn ei dydd – yn gweithio. Roedd y tapiau wedi magu cen, y ffenestri wedi eu cau gan lwch a frithwyd gan y glaw, ac adrannau cyfan o’r adeilad ynghau. Dim ond Sebald a welais yn cerdded y coridorau meithion. Nid oedd y Midland mwyach yn rhywle i ddod i ddyrchafu golygon. Mae’n gwestiwn a ydi o heddiw hefyd, hyd yn oed ar ôl ei adnewyddu yn 2020 am 14 miliwn o bunnoedd. Yn yr wythdegau, roedd y gwlybaniaeth fel petai wedi treiddio drwy sêl y ffenestri i’r hen gadeiriau moethus a’r carpedi, nes eu gwneud yn fwsoglyd dan draed. Meddyliais fy mod mewn gwesty mawr imperialaidd a adawyd i’r monsŵn, fy mod wedi cyrraedd deheudir llaith yr India ac y byddwn, erbyn y bore, yn gorfod wynebu’r wawr las ar yr wy lledrog a fyddai yn ei saim wedi dechrau cyrlio fel pennog. Ond trwy’r ffenestri pŵl, gallwn deimlo ei bod hi’n bruddglwyfus allan ar y strydoedd, ei bod yn chwythu, yn wlyb ac yn oer, ac mai ym Mhrydain yr oeddwn o hyd.

Beth wnaeth i mi fod mor hy â meddwl bod hawl gen i aros yn yr ystafell hon yng ngwesty’r Midland efo’r gŵr hwn? Pan eisteddodd i lawr yn y gadair esmwyth ym mae y ffenest gongl, er na thynnodd ei gôt, dechreuodd werthfawrogi dyfnder y tawelwch a glywai bob yn dipyn pan fyddai pall ar rwnian y traffig. Dywed ei fod yn teimlo ei fod yn sydyn mewn tref Bwylaidd. Disgrifia’r ystafell fel blwch wedi ei leinio â melfed bordeaux, megis cas lle rhoddir ffidil i orwedd wedi’r canu, neu flwch gemwaith. Yn y tawelwch, does bosib ei fod yn clywed cerddorfa symffoni yn paratoi eu hofferynnau yn y Free Trade Hall gerllaw, ac yn y pellter, lais y canwr opera a elwid Siegfried, a fentrai godi i’r llwyfan i ganu yn y chwedegau yn neuadd gerdd boblogaidd y Liston – darnau hirion o Parsifal, meddai. Yn swmp y dadfail ysblennydd, roedd pethau eto’n delynegol. Proses o ddadfeilio oedd tynnu lluniau i Ferber, meddai drachefn, a dechreuodd ddisgrifio sut y byddai’n ei weld yn ei weithdy ger y dociau yn crafu ei baentiadau yn bentwr o naddion – ddeg awr y diwrnod bob diwrnod, gan gynnwys ar y Sul – naddion a fyddai’n codi yn fynydd wrth ei draed, a’r lluniau yn dod dim ond wrth sgathru’n ddiflino, yn ddefosiynol, o fore gwyn tan nos, fel petai’r paentiwr am weld beth fyddai ar ôl, os unrhyw beth. Roedd y ddelwedd hon yn apelio ata i, er mai fel arall y byddaf yn meddwl am artistiaid: fel pobl sy’n llwyddo i gysylltu pethau anghymharus, ac felly o reidrwydd, efallai, rywfaint yn rhyfygus, yn gorfod credu gormod a thwyllo, i ddechrau, er mwyn creu. 

Prynu a gwerthu paentiadau oedd gwaith tad Max Ferber. Fallai iddo gasglu cynifer o baentiadau â theulu Wallace a Marcwisiaid Hertford. Heddiw, gellir cerdded, fel y gwnes innau ychydig ddiwrnodau’n ôl, i mewn i dŷ’r teulu yn Sgwâr Manceinion yn Llundain a gweld eu darluniau am ddim. Maent yn hongian dros bob modfedd o’r waliau, fel petai i brofi nad oes modd i brydferthwch ymddangos ar ei ben ei hun; mai dim ond mewn cwmni y daw. Neu fallai nad oedd yn amlwg i’r casglwyr ar y pryd pa ddarluniau fyddai’n dal i aeddfedu ymhen canrifoedd. Tybed ai mewn ymgais i wared yr holl ddelweddau a orlifai o’i blentyndod y byddai Ferber yn crafu ei baentiadau hyd at yr asgwrn? Yng nghasgliad Wallace, mae’r ail ganrif ar bymtheg yn loyw o hyd. Mae’r cynfasau bywyd llonydd yn syfrdanol o fyw hefyd. Ond mae llawer gormod ar y waliau, maent wedi eu gosod yn rheseidiau y naill uwch y llall nes creu argraff arwynebol o sŵn undonedd a chreu dryswch ynghylch pwy yn union ydi’r gynulleidfa yn yr ystafelloedd hyn. Wrth geisio dirnad rhywbeth yn y deunydd helaeth, yn anorfod mae rhywun yn chwilio am adlais, am adnabyddiaeth ohono ei hun. Adnabyddais lun o Fenis gan Canaletto a oedd ar fy nhun pensiliau ysgol. Edmygais lonyddwch gosgeiddig ysgyfarnogod meirw Jan Weenix. Ac wedi syrffedu ar y Bouchers, yn annisgwyl gwelais bortread a deimlais megis gwayw Ciwpid o dan fy ysgwydd, profiad na chefais ond unwaith erioed o’r blaen, ac na chredwn, hyd y foment honno yn y gorffennol, ei fod yn fwy na ffansi diffyg dychymyg. Dyma Titus yn niwedd ei laslencyndod (c. 1657), yr unig blentyn a oroesodd o briodas gyntaf Rembrandt. Wedi cerdded trwy gynifer o olygfeydd prysur a gweld cymaint o waith, o ddeisyfu a galaru, pan ddeuthum heb ei ddisgwyl wyneb yn wyneb â Titus Rembrandt, bu rhaid i mi ganolbwyntio er mwyn cadw emosiwn hyd braich. Mae llygaid Titus yn mynegi pethau anghymharus, nid llygaid unfryd mohonynt, a’i olwg yn gwneud i mi feddwl am y geiriau beiblaidd, ‘Trugarha wrthym’. Dywed y nodiadau am y llun iddo gael ei baentio gan ei dad yn fuan, mwy na thebyg, ar ôl iddo fethdalu ac i Titus a’i fam orfod gweinyddu gwerthiant ei ddarluniau a’i ysgythriadau. Hyd yn oed wrth feddwl amdano y funud hon, ddyddiau’n ddiweddarach, mae ei olwg yn fy ngadael yn fud. Mae’n dlws. Mae’n f’atgoffa o’r geiriau yn Deuteronomium yr Hen Destament: ‘Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i’r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” Nid rhywbeth y tu hwnt i’r môr yw ychwaith, iti ddweud, “Pwy a â dros y môr ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” Y mae’r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.’ Af i feddwl am y berthynas hanfodol rhwng credu a chelfyddyd, ac am hanes Parsifal a’r Greal Sanctaidd. Trugaredd yw testun cân Parsifal yng ngwaith olaf Wagner hefyd, lle mae cymuned mewn cyfnod aflonydd, cythryblus, yn cael ei llonyddu trwy ddealltwriaeth gwron o dynerwch calon. 

Tan i mi weld Titus yn y cnawd, roeddwn wedi anghofio am obsesiwn Sebald â llygaid. Yr ail lun nas cynhwyswyd yn y cyfieithiadau o ‘Max Ferber’ yw darn o wyneb dyn a ddengys un llygad yn unig, llygad Ferber – ond tybed ai Auerbach yn ogystal, a ofynnodd am ei dynnu o’r cyfieithiad Saesneg? Awgryma’r adroddwr iddo weld y ffotograff mewn gwybodaeth ddisgrifiadol a osodwyd ger darlun yn dwyn llofnod Ferber, GI on her Blue Candlewick Cover, y digwyddodd ddod ar ei draws ar ymweliad â’r Tate ddiwedd Tachwedd 1989. Gwn am ddarlun gan Auerbach yn dwyn teitl tebyg: EOW on her Blue Eiderdown (1965). Ond mynd yno i weld La Vénus endormie (1944) Paul Delvaux a wnaeth Sebald yr adroddwr, meddai. Gorwedd wna Fenws Delvaux mewn distawrwydd syber wrth i fomiau’r Ail Ryfel Byd ddinistrio dinas Brwsel. Yn y gyfrol ddiweddarach, ‘Heb ei adrodd’ (Unerzählt, 2003), priodir cerddi gan Sebald â lithograffau gan yr artist Jan Peter Tripp. Darllenais fod y ddau yn gyfeillion ysgol yn yr Almaen. Ym mhob un lithograff, llygaid sydd. Yn eu plith, llygaid Beckett, Borges, Proust, Jasper Johns, Francis Bacon, a Tripp a Sebald. 

I bob dyn sy’n meddwl, gofynnaf iddo ddangos i mi yr hyn a erys, meddai fy hoff fardd, gan adleisio o flaen ei amser gymhelliad Ferber i grafu uwch ei fynydd o lwch. Haws ydi amgyffred, ysywaeth, yr hyn a welir mewn llun, neu a glywir ar ffurf cân, nag a ganfyddir yn llygaid person go-iawn. Fel llais Siegfried y canwr opera, sydd wedi mentro i ben llwyfan anghydnaws i ganu Parsifal yn neuadd gerdd boblogaidd y Liston o bobman, llais a glywir gan y gŵr yn y gadair bordeaux yng ngwesty’r Midland yn atseinio yn ei ddychymyg, yn cyrraedd o rywle diarffordd. Fallai mai dyna bwrpas celfyddyd: ein gwneud yn fwy na ni ein hunain, er mwyn cyfleu i ni y pethau hyn o bell, y pethau anghydryw sydd ynom, y geiriau dilys sy’n weddill, fyddai fel arall yn rhy dlws.

Yng nghasgliad Wallace, mae’r ail ganrif ar bymtheg yn loyw o hyd. Mae’r cynfasau bywyd llonydd yn syfrdanol o fyw hefyd

Pynciau:

#Rhifyn 20
#Sioned Puw Rowlands
#Celfyddyd weledol
#Cerddoriaeth
#Wagner
#W G Sebald